Senedd Cymru

Welsh Parliament

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Economy, Trade, and Rural Affairs Committee

Bil Bwyd (Cymru)

Food (Wales) Bill

FWB-01

Ymateb gan: Synnwyr Bwyd Cymru

Evidence from: Food Sense Wales

 

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Bil Bwyd (Cymru)

Katie Palmer, Synnwyr Bwyd Cymru 21.12.22

1.       Mae’r Bil yn cyflwyno fframwaith a mesurau atebolrwydd ystyrlon er mwyn gallu mabwysiadu dull rhagweithiol, gan bennu sut rydym am i’n system fwyd weithio, yn hytrach na dim ond delio â’r canlyniadau. Rydym o’r farn bod y Bil yn hanfodol er mwyn gallu creu polisi ystyrlon a chynhwysfawr a fydd yn cyflawni’r nod o sicrhau system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

2.       Fel sefydliad sy’n gweithredu ar draws y System Fwyd – gan gwmpasu’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus – mae Synnwyr Bwyd Cymru yn ymwybodol iawn o’r ffaith nad oes gan y system fwyd yng Nghymru weledigaeth na thargedau holistaidd a bod hynny’n llesteirio’r cynnydd y gallai Cymru fod yn ei wneud i fod yn un o wledydd bwyd mwyaf cynaliadwy a chadarn y byd. Gallai’r system fwyd fod yn cyflawni targedau iechyd y boblogaeth, diogelwch bwyd, sero net a bioamrywiaeth a gwaith teg. Y gwir amdani yw bod diffyg polisi cydlynol yn atal hyn rhag digwydd – a gallai wneud y sefyllfa’n waeth hyd yn oed. Byddai dod ag arbenigwyr ar draws y System Fwyd at ei gilydd o dan faner y Comisiwn Bwyd, er mwyn datblygu a goruchwylio’r strategaeth, yn sicrhau bod pob rhan o’r system yn anelu tuag at yr un nod.

 

3.       Yn benodol, hoffwn bwysleisio’r cyfleoedd sydd ar gael drwy gysylltu’r weledigaeth a’r polisïau cenedlaethol â strategaeth leol a chyflawni’n lleol. Ar lefel leol gellir cynnwys Nodau Bwyd mewn Amcanion Llesiant a’u cyflawni drwy gynlluniau bwyd lleol sy’n cael eu goruchwylio’n lleol gan Bartneriaethau Bwyd traws-sector a thrwy gydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Enghreifftiau o ble y gellir gweld yr arfer hwn eisoes yn datblygu yw’r Rhwydwaith o 7 Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy[1] sef Bwyd Blaenau Gwent, Bwyd Sir Gâr, Bwyd Caerdydd, Bwyd Sir Fynwy a Bwyd y Fro yn benodol. Mae Strategaeth Bwyd Da Bwyd Caerdydd ar gyfer y ddinas yn amlinellu pum nod bwyd – Caerdydd iach; Caerdydd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol; economi leol ffyniannus; system fwyd teg a chysylltiedig; a mudiad bwyd sy’n grymuso pobl. Lluniwyd y strategaeth hon ar y cyd gan bron i 2,500 o unigolion a sefydliadau yng Nghaerdydd a thrwy ddefnyddio canlyniadau arolwg dinasyddion Caerdydd a gynhaliwyd gan Gyngor Caerdydd a BIP Caerdydd a’r Fro. Cyngor Caerdydd oedd un o awdurdodau lleol cyntaf y DU i gyhoeddi ei Strategaeth Fwyd ei hun yn 2019. Gan gydnabod yr angen i weithio gyda sawl portffolio, llwyddodd Cyngor Caerdydd i benodi Swyddog Bwyd penodedig ac i gynnal Grŵp Llywio ar draws adrannau. Mae’r Cynllun Symud Mwy, Bwyta’n Iach o dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac a gymeradwywyd gan ddau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys maes blaenoriaeth ar gyfer cymunedau iechyd, gan ymrwymo i ddatblygu partneriaethau bwyd cynaliadwy yn barhaus. Mae Cynllun Llesiant Drafft Caerdydd yn cynnwys “hyrwyddo bwyd iach, lleol a charbon isel a chefnogi cais Caerdydd i gael gwobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur cyntaf Cymru”[2].

Byddai darparu adnoddau hyfforddi digonol o fewn cyrff cyhoeddus a chydlynu partneriaethau bwyd yn rhan allweddol o weithredu’r cynllun yn llwyddiannus – gwaith y gellid ei ddatblygu drwy’r Strategaeth Fwyd Gymunedol.

Efallai yr hoffai’r pwyllgor nodi fod Llywodraeth Cymru yn y broses o fuddsoddi £2.5m er mwyn datblygu partneriaethau bwyd ar draws y sector gyda’r Tîm Dyfodol Ffyniannus. 

4.       Fe wnaethom ymateb i’r Ymgynghoriad ar y Bil Bwyd fel rhan o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru gan ymateb yn fanwl i bob agwedd o’r Bil  

Cymraeg - Ymateb_BilBwydCymru_Cymraeg.pdf (foodsensewales.org.uk)

Saesneg - Draft-Food-Wales-Bill-consultation-response_Eng.pdf (foodsensewales.org.uk)

Rydym yn falch o weld bod y Bil agweddau amgylcheddol ac addysg y Bil wedi’u cryfhau.



[1] Lleoedd Bwyd Cynaliadwy - Synnwyr Bwyd Cymraeg (synnwyrbwydcymru.org.uk)

[2] Cardiff-PSBs-Draft-Local-Well-being-Plan-2023-2028_English.pdf (cardiffpartnership.co.uk) tud 48